Hafan » Amdanom Ni » Newyddion
Mae teuluoedd sydd eisiau mwy am eu harian erbyn hyn yn gallu mynd mewn i ddau o atyniadau unigryw’r Parc Cenedlaethol am flwyddyn yn ddiderfyn.
Erbyn hyn mae tocynnau tymor ar y cyd ar gael i fynd mewn i Gastell Caerriw a’r Felin a Chaer Oes Haearn Castell Henllys am flwyddyn ac maent ar gael o’r ddau safle eiconig yma sy’n cael eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Croesi cleddyfau yng Nghastell Caerriw.
Dywedodd Teresa Hogsflesh, Rheolwr Safle Castell Caerriw: “Mae’r penwythnos Jiwbili nesaf yma yn gyfle perffaith i brynu tocyn a dechrau ei ddefnyddio, gyda digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal dros benwythnos hir y dathliad”
“Mae tocyn tymor ar y cyd yn parhau am flwyddyn o’r dyddiad y caiff ei brynu ac mae’r prisiau fel a ganlyn: oedolion £15, consesiynau (henoed, myfyrwyr, plant) £12, teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £40. Y prisiau mynediad arferol yw £4.75, £3.50 a £12.75 yn ôl eu trefn, felly mae’n arbediad mawr os ydych eisiau mynd allan am ddiwrnod yn rheolaidd gyda’r teulu.”
Dod yn rhan o ysbryd yr Oes Haearn yng Nghastell Henllys.
Ar yr ŵyl banc Llun Mehefin 4ydd, bydd Castell Henllys yn cynnal Ffair Gyn-hanesyddol gydag arddangosiadau a gweithdai yn amrywio o durnio coed ar durn polyn a basgedwaith i weithio metel ynghyd ag arddangosiadau o ryfela ac arfau'r Oes Haearn.
Bydd Karl Lee, un o’r ychydig naddwyr fflint proffesiynol ym Mhrydain, yn arddangos ei grefft, wrth rannu gwybodaeth archeolegol. Am ffi fechan gall pobl ddysgu, o dan hyfforddiant medrus Karl, sut i wneud offer megis pennau saethau, pennau gwaywffyn neu fwyeill llaw.
Mae llefydd ar gyfer y gweithdy yn gyfyngedig felly mae bwcio yn hanfodol ar 01239 891319.
Peidiwch â cholli’r digwyddiadau Ymladd a Ffermio a Trothwy i’r Gorffennol sydd hefyd yn cael eu cynnig yn y Gaer Oes Haearn. Bydd Gwledd Geltaidd hynafol Beltaine hefyd yn cael ei dathlu yng Nghastell Henllys ar ddydd Mawrth yr ŵyl banc gyda Gweithdy Helyg, Myth a Dirgelwch a Llosgi’r Dyn Pabwyr.
Bydd Castell Caerriw a’r Felin yn cynnal gweithgareddau Cymysgedd Canoloesol i ddathlu’r Jiwbili Diemwnt , gyda thri digwyddiad yn cynnwys Gwyddor Bowlio, Adar Ysglyfaethus Doc Penfro (Mehefin 2il – 5ed) a Ffair Perlysiau a Chrefftau (Mehefin 2il – 4ydd).
Trwythwch eich hunan yn yr hen amseroedd gydag ymladd cleddyfau, arddangosiadau saethyddiaeth , ac arddangosiadau o arfwisg ac arfau di-fin i ysbrydoli dychymyg y ‘marchog’ hynaf , neu gall rhai o argyhoeddiad addfwynach grwydro drwy’r Ffair Perlysiau a Chrefftau gyda’i gardd berlysiau a stondinau crefftau a chynnyrch.

Dysgwch am hebogyddiaeth ac adar ysglyfaethus eraill bendigedig gyda’r digwyddiad Adar Ysglyfaethus Doc Penfro. Mae sesiynau byr un-i-un gyda’r adar ar gael am gost ychwanegol o £3.
Am wybodaeth ar holl ddigwyddiadau’r Parc Cenedlaethol ewch i www.pembrokeshirecoast.org.uk <http://www.pembrokeshirecoast.org.uk> a dilynwch ni ar facebook (Pembrokeshire Coast) a twitter (@PembsCoast).
Gyhoeddi 25/05/2012