Hafan » Amdanom Ni » Newyddion
Yn ddiweddar cafodd ymdrechion creadigol grŵp o bump o blant ysgol o sir Benfro eu gwobrwyo wrth i’w gwaith gael ei arddangos yn ystod ymweliad EUB Tywysog Cymru.
Cydweithiodd myfyrwyr blwyddyn 10 Ysgol y Preseli gyda staff o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Urdd yn sir Benfro i greu gardd goffa gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, er cof am gyn-ddisgybl.
EUB Tywysog Cymru yn cyfarfod â disgyblion o glwb xl Ysgol y Preseli yn Llanelli.
Ymunodd Kelly Anderson â hwy o’r Prosiect Ewropeaidd ‘Reaching the Heights’ a gweithiodd pawb fel rhan o raglen clybiau xl Ymddiriedolaeth y Tywysog i greu gwerddon o heddwch ar gyfer eu gardd, yn amgylchedd prysur yr ysgol.
Dywedodd Richard Vaughan, Parcmon Awdurdod y Parc: “Cydnabyddwd eu gwaith caled trwy wahoddiad i gyfarfod â EUB Tywysog Cymru fel rhan o agoriad Swyddfa newydd gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru yn Llangennech, Llanelli ar Orffennaf 13eg.
“Datblygwyd yr ardd flodau gwyllt hon er cof am gyn-ddisgybl yn gyfan gwbl heb unrhyw gymorth mecanyddol sydd yn gryn orchest.
“Defnyddiwyd deunyddiau wedi’u hailgylchu cymaint â phosibl, megis llechen fel gorchudd llwybr mynediad i bawb, ac obelisgau metel i greu uchder mewn ardaloedd blodau gwyllt.
“Plannwyd perlysiau a mefus mewn baddon, plannwyd coeden cerddinen, gyda labeli dwyieithog mawr iawn.”
Disgyblion o glwb xl Ysgol y Preseli gyda gweithredwyr Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru, Donna Davies, Kelly Anderson a Pharcmon y Gogledd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Richard Vaughan yn Llanelli.
Dywedodd Gair O’Sullivan, Rheolwr xl ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymru: “Gweithiodd y bobl ifanc yn galed iawn i wneud y prosiect hwn yn gymaint o lwyddiant. Mae clybiau xl Ymddiriedolaeth y Tywysog yn rhoi’r gofod a’r sylw sydd ei angen ar bobl ifanc i ddysgu sgiliau a hyder yn ogystal ag i ffurfio synnwyr o berchnogaeth dros eu gwaith a’u datblygiad eu hunain. Profwyd fod ein cynlluniau’n gweithio, ac rydym eisiau gweithio gyda mwy o athrawon ar draws Cymru i roi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc fregus i lwyddo.”
Ariannwyd prosiect yr ardd gan grant oddi wrth “Think Big with O2” a chyfraniad gan yr ysgol. Roedd prosiect yr ardd yn rhan o agwedd dysgu sail gwricwlwm amgen, sy’n targedu disgyblion 14-16 oed i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol tra’n eu gwobrwyo gyda chymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig ar ddiwedd y rhaglen ddwy flynedd.
Am fwy o wybodaeth ar glybiau xl ewch i www.princes-trust.org.uk.
Gyhoeddi 27/07/2012