I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Cyfle i aros a chwarae ar stondin Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y sioe

Fe fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n croesawu’r rheiny sy’n ymweld â’r sioe i’w brif stondin yr wythnos nesaf, i ddarganfod pam mae’r Parc Cenedlaethol yn arbennig ac i ymuno mewn llond lle o hwyl a gemau gyda’r teulu.

Meddai Marie Edwards, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu: “Fe fydd ein pabell yn dathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 60 ac mae’n rhoi cyfle i bobl rhannu’r hyn sy’n annwyl iddynt am y Parc a darganfod mwy am y ffyrdd gorau o gael mynediad ato a’i fwynhau.

PCNPA vintage railway poster 60th campaign - c. PCNPA

“Mae i’r gweithgareddau flas traddodiadol ar lan y môr ac rydyn ni’n gobeithio y bydd plant o bob oed yn eu mwynhau, gyda pheintio wyneb rhad ac am ddim, gemau llawr, gweithgareddau parcmon a blwch tywod mawr ar gyfer y rhai bach. Fe fydd gwybodaeth gennym hefyd am y teithiau cerdded yn y Parc, a llond lle o syniadau ar gyfer mynd allan i fwynhau’r gorau sydd gan y Parc i’w gynnig.

“Rydyn ni’n gobeithio gweld digon o bobl yn galw heibio i rannu eu hoff olygfa yn y Parc Cenedlaethol ac i gystadlu i ennill gwobr gwych – llun proffesiynol wedi’i fframio o’u golygfa. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu pobl i babell yr Awdurdod ar gornel y Brif Rodfa a Rhodfa’r Band, i ymuno yn yr hwyl!”

Fe fydd deunydd marchnata poblogaidd a gynhyrchwyd yn ddiweddar, fel rhan o ymgyrch posteri rheilffordd o’r oes a fu, i ddathlu pen-blwydd yr Awdurdod yn 60, hefyd ar werth yn y Sioe.

Fe fydd Parcmyn y Parc Cenedlaethol a staff arbenigol eraill o’r Awdurdod wrth law i siarad am eu gwaith ac i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Fe fydd Swyddog y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, Emma Taylor, yn cynnal cymhorthfa ar ddydd Mawrth 15 Awst, gyda chyfle i unrhyw un alw heibio am wybodaeth neu gyngor ar gynaliadwyedd ac i helpu pobl gyda’u ceisiadau i’r Gronfa.

Mae gan yr Awdurdod babell a safle arddangos yn Ardal Arddangos Cefn Gwlad hefyd. Fe fydd staff o Ganolfan Goetir Cilrhedyn yr Awdurdod a’r tîm Coetir hefyd yn gwneud crefftau pren traddodiadol ac yn cynnig cyngor ar reoli coetiroedd.
 

Gyhoeddi 03/08/2012



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion