I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Y Parc

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro rai o'r golygfeydd gorau a'r bywyd gwyllt mwyaf amrywiol yn Sir Benfro, gan gynnwys gwarchodfeydd natur, daeareg ac archeoleg sy’n bwysig yn rhyngwladol.

Un o ddyletswyddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw gwarchod a gwella nodweddion arbennig, naturiol y dirwedd, yn ogystal â threftadaeth ddiwylliannol y Parc.

Flimston Bay - Pembrokeshire Coast National Park

Mae'r adran ar Y Parc yn esbonio mwy am yr hyn sydd i'w weld ac ym mhle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, pam mae'n le mor arbennig a sut mae'r Awdurdod yn gweithio i'w warchod. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar fywyd gwyllt, daeareg. archeoleg, economeg, diwylliant a'r gorffennol.

Mae’r map isod yn amlinellu ardal y Parc Cenedlaethol, y prif heolydd a’r aneddiadau yn Sir Benfro, a rhai o’r atyniadau mwyaf poblogaidd o fewn y Parc. Os ydych am brynu mapiau Arolwg Ordnans, ewch i'r dudalen cyhoeddiadau.

Map o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cliciwch ar y map i agor fersiwn mwy o faint.