I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Amdanom Ni » Canolfan y Cyfryngau » Ffilmiau yn y Parc

Ffilmiau yn y Parc

Mae golygfeydd godidog, morlin dramatig a thraethau tywodlyd naturiol Sir Benfro wedi ymddangos tu ôl i sêr y sgrîn arian dro ar ôl tro yn ffilmiau’r pum degawd diwethaf.

Shell Cottage, Freshwater West
Harry Potter and the Deathly Hallows, Shell Cottage, Freshwater West

Isod, ceir rhestr o’r ffilmiau sydd wedi eu gosod yn rhannol yn Sir Benfro:


  • Moby Dick (1956) - Wdig ac Abergwaun
  • Fury at Smugglers' Bay (1961) - Abereiddi
  • The Lion in Winter (1968) - Castell Penfro a Marloes
  • Under Milk Wood (1972) - Y Cwm, Abergwaun
  • Jabberwocky (1977) - Castell Penfro
  • The Lion, The Witch and The Wardrobe (BBC) (1988) Castell Maenorbŷr
  • Vanity Fair (drama’r BBC) (1998) - Dinbych-y-pysgod
  • I Capture the Castle (2003) - Maenorbŷr
  • I’ll Sleep when I’m Dead (2003) - Abergwaun a Bryniau'r Preseli
  • Round Ireland With a Fridge (2010) - Maenorbŷr a Bryniau'r Preseli
  • The Edge of Love (2008) - Dinbych-y-pysgod
  • Robin Hood (2010) - Freshwater West
  • Third Star (2010) - Bae Barafundle
  • Harry Potter and the Deathly Hallows (rhannau un a dau) (2010/2011) - Freshwater West
  • Snow White and the Huntsman (2012) - Marloes
  • Richard II (2014) - Marloes a Chastell Caeriw, Porthmawr
  • Under Milk Wood/Dan y Wenallt (2014) - Solfach

Cofiwch ddweud os ydyn ni wedi anghofio am unrhyw ffilmiau!

Snow White and the Huntsman, Marloes Sands Pembrokeshire Coast National Park
Snow White and the Huntsman - Marloes

Snow White and the Huntsman on Marloes Sands; Pembrokeshire Coast National Park
Ffilmio Snow White and the Huntsman ar draeth Marloes

Vanity Fair Tenby Beach Pembrokeshire Coast
Vanity Fair - Dinbych-y-pysgod

Mae llawer o’r ffilmiau hyn wedi bod yn amrywiol ac yn enwog yn rhyngwladol. O Vanity Fair (Traeth Dinbych-y-pysgod) i Round Ireland with a Fridge (Maenorbŷr) ac wrth gwrs Robin Hood a Harry Potter and the Deathly Hallows Part One (Freshwater West), mae Arfordir Penfro wedi chwarae sawl rhan bwysig.

Harry Potter Shell cottage Freshwater West Pembrokeshire
Harry Potter and the Deathly Hallows part one - Freshwater West

I dirwedd Sir Benfro, daeth sawl actor ac actores enwog fel Russell Crowe, Cate Blanchet, Helena Bonham Carter, Emma Watson, Gregory Peck, Anthony Hopkins, Peter O’Toole, Richard Burton…mae’r rhestr yn un faith!

Robin Hood filming Freshwater West
Ffilmio Robin Hood ar draeth Freshwater West