Hafan » Amdanom Ni » Newyddion
Apwyntiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ei Chadeirydd newydd heddiw, Dydd Mercher.
Ail-etholwyd y Cyng. Tony Brinsden, Cadeirydd presennol yr Awdurdod, gan yr Aelodau yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf.
Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones, gyda’r Cadeirydd a ail-etholwyd, y Cyng. Tony Brinsden, gyda’r Is-Gadeirydd, y Cyng. Mike James.
Llun: PCNPA
Etholwyd y Cyng. Brinsden gan yr Aelodau yn Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei phencadlys ym Mharc Llanion, Doc Penfro.
Y Cyng. Mike James yw’r Is-Gadeirydd newydd, gan gymryd drosodd oddi wrth y Cyng. Rob Lewis.
Dywedodd y Cadeirydd a ail-etholwyd: “Rwy’n ystyried hi’n anrhydedd fawr i barhau yn y swydd arbennig hon yn enwedig yn y flwyddyn sy’n nodi 60fed blwyddyn yr Awdurdod. Gobeithio y gallwn ni barhau i gynnal egwyddorion y Parc Cenedlaethol yn wyneb yr holl anawsterau ariannol ry’n ni’i gyd yn eu profi.”
“Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i weithio gydag Aelodau newydd a phresennol yr Awdurdod yn ystod y flwyddyn nesa, er mwyn cyrraedd amcanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.”
Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol (o’r chwith i’r dde): y Cyng.Paul Harries, Cyng. Peter Morgan, Mr Ted Sangster, Mrs Melinda Thomas, Cyng. Bob Kilmister, Mr Alan Archer, Mr David Ellis, Cyng. Reg Owen (blaen), Cyng. Michael Williams, Cyng. Tony Brinsden, Cyng. Tony Wilcox, Cyng. Mike James, Cyng. Lyn Jenkins, Cyng. David Rees, Mrs Gwyneth Hayward, Cyng. Alison Lee a’r Cyng. Robert Lewis. (Nid yw’r Aelod, Christine Gwyther, yn bresennol).
Llun: PCNPA
Mae’r Cyng. Brinsden, sydd o Lanteg, yn ei wythfed blwyddyn o wasanaeth i’r Awdurdod, wedi ymuno yn 2004. Bu’n Gadeirydd hefyd ar y Pwyllgor Datblygu Rheolaeth o 2006-2009.
Apwyntiwyd Mrs Gwyneth Hayward yn yr un cyfarfod yn Gadeirydd y Pwyllgor Datblygu Rheolaeth, gan gymryd drosodd oddi wrth y Cyng. Simon Hancock.
Mae’r etholiadau lleol diweddar wedi golygu bod saith o gynghorwyr newydd wedi’u hapwyntio gan Gyngor Sir Benfro i wasanaethu fel Aelodau o Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Fe fydd y Cyng. Paul Harries, y Cyng. Lyn Jenkins, y Cyng.Bob Kilmister, y Cyng. Alison Lee, y Cyng. Reg Owen, y Cyng. David WM Rees a’r Cyng. AW (Tony) Wilcox, i gyd yn gwasanaethu’r Awdurdod tan 2014.
Am ragor o wybodaeth am Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a’u swyddogaethau, cyrchwch www.arfordirpenfro.org.uk.
Gyhoeddi 13/06/2012