I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Ail-ddarganfod Maes Tanio Maenorbŷr

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig y cyfle i gael taith unigryw o gwmpas Maes Tanio Maenorbŷr.

Fel arfer mae’r maes tanio’n waharddedig i’r cyhoedd ond mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn agor ei drysau ar fore’r 8fed Awst 2012.

Aerial view of Manorbier Pic PCNPA

Mae’r teithiau tywysedig blynyddol wedi profi’n boblogaidd yn ystod y saith mlynedd diwethaf, pan gafoddd ymwelwyr y cyfle i ddysgu am y defnydd o’r Ystad Hyfforddi Filitaraidd hon.

Mae’r digwyddiad hwn eleni’n cychwyn am 10.00am. Rhoddir cyflwyniad gan Benswyddog y Maes Tanio yr Uwchgapten Peter Sulman ar hanes militaraidd Maenorbŷr a’i ddefnydd ers ei greu yn 1938. Yn dilyn hyn bydd taith gerdded fer o gwmpas y maes tanio, o dan arweiniad Lynne Houlston, Parcmon Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Archaeolegydd Pete Crane.

Mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw un dros 16 a chyfyngir y niferoedd felly bwciwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Am fanylion pellach ac i fwcio lle ffoniwch Lynne ar 01646 662213 neu 07866 771188.
 

 

 

Gyhoeddi 16/07/2012



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion