I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Amdanom Ni » Newyddion

Newyddion

Diwrnod teg yn yr haf am farchnad pethau o’r rhyw orau

Os mai pori mewn ffair yn llawn o bethau o’r rhyw orau heb orfod teithio i ganol dinas brysur ydyw’ch syniad chi o ddiwrnod ardderchog allan, yna beth am gymryd amser i deithio i Dyddewi'r penwythnos hwn.

Bydd Galeri Oriel y Parc a’r Ganolfan Groeso a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal Siop yn y Parc - Creadigaethau o’r Rhyw Orau a Chrefftwyr ar Awst 4ydd o 10am tan 4pm.

Vintage and Artisans Creations - kitchenalia pic Jeannie Bell

Dywedodd Paula Ellis, Rheolwr Oriel y Parc: “ Mae cymaint o gyfoeth artistig yn ein sir ac yr ydym wrth ein bodd fel Canolfan Groeso Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gynnig cefnogaeth i’n crefftwyr lleol.

“Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Arberth, edrychwn ymlaen at groesawu’r digwyddiad i ogledd y Sir yn y farchnad berffaith hon- clos Oriel y Parc, Tyddewi."

Dywedodd y Trefnydd, Jeannie Bell: “Dechreuodd y ffair gyda grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd sydd wedi datblygu eu stondinau dros y ddwy flynedd ddiwethaf - yr ydym yn falch o ddweud ei fod yn greadigaeth Sir Benfro!”

“Fe fyddwn yn gwerthu eitemau o’r rhyw orau yn cynnwys tecstilau a dillad, deunydd casgladwy, celfi chic afler, cynnyrch crefftwyr, teganau, offer cegin a blodau.”

“Bydd 12 stondin y tu allan ar glos Oriel y Parc os bydd yr haul yn gwenu neu y tu fewn yn yr Ystafell Ddarganfod os bydd hi’n wlyb.”

Mae gan Oriel y Parc, Canolfan Groeso Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd hefyd yn gartref i Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn Sir Benfro, arddangosfa hefyd o waith John Piper yn y brif oriel, a chasgliad o waith Graham Sutherland yn Oriel 2.

Mae hefyd yn cynnwys Canolfan Groeso, Stiwdio Artist Preswyl, a Thŵr sy’n gartref i arddangosfeydd celf lleol a dosbarthiadau a gynhelir gan y gymuned, a chaffi.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn ffoniwch Oriel y Parc ar 01437 720392.
 

Gyhoeddi 27/07/2012



yn ôl Nôl i'r rhestr newyddion