Hafan » Gofalu Am » Cynllun Rheoli'r Parc
Nid yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n gallu cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol ar ei ben ei hun, ac mae’n ddyletswydd ar lawer o fudiadau, trwy Ddeddf yr Amgylchedd 1995, i gyfrannu at ddibenion y Parc Cenedlaethol yn eu gweithrediadau eu hunain.

Mae Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn ffordd o gydlynu ymdrechion. Mae’n gynllun i gyflawni dibenion Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac felly nid yw’n gynllun ar gyfer Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn unig. Ac er taw’r Awdurdod sy’n cynhyrchu’r Cynllun Rheoli, mae yna lawer o bobl eraill ynghlwm â’r broses o’i baratoi, ac yn hanfodol i’r broses o’i drosglwyddo.
Cynigir y polisïau yn y Cynllun Rheoli fel amcanion gweithredol ar gyfer y mudiadau a’r unigolion niferus y mae eu gweithredoedd yn gallu dylanwadu ar y Parc Cenedlaethol.
Cynlluniau rheoli ar gyfer Parciau Cenedlaethol - canllawiau