I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   
Tywydd

Weather  |  Tide Tables

 

Hafan » Mwynhau » Llefydd i Ymweld â Nhw » Castell a Melin Heli Caeriw » Ymweld » Bywyd Gwyllt

Bywyd Gwyllt

Er yn enwog am ei rôl mewn hanes, mae Castell Caeriw’n llai adnabyddus – ond lawn cyn bwysiced – am ei fywyd gwyllt. Cafodd y Castell, y glaswelltir, Llyn y Felin a Lôn y Felin eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) i gydnabod y ffaith hon ym 1995.

Glaswellt hir i gadw’r ystlum yn hapus!

Mae ystlumod llwglyd wrth eu bodd yn hela’r gwyfynod, y chwilod a’r creaduriaid di-asgwrn-cefn sy’n byw ymysg y glaswellt hir a’r blodau gwylltion yma yng Nghastell Caeriw – dyna un rheswm pam rydyn ni’n gadael i’r glaswellt dyfu’n hir.

Cofnodwyd mwy na hanner yr holl rywogaethau ystlumod a geir ym Mhrydain – gan gynnwys yr ystlum pedol mwyaf, sy’n eithriadol o brin – yma dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Tŵr y De Orllewin ar gau i’r cyhoedd er mwyn diogelu’r ystlumod sy’n byw yno. Mae mwy na hanner yr holl rywogaethau o ystlumod a geir ym Mhrydain- yn cynnwys yr ystlumm pedol prin- wedi’u cofnodi yma.

Ystlum Bedol Fwyaf
Ystlum Bedol Fwyaf.

Planhigion

Dywedir bod Castell Caeriw’n un o’r safleoedd gorau ym Mhrydain ar gyfer y llawredynen Gymreig a ffyngau cap cwyr. Tyfa’r maglys brith, troed-y-cyw clymog a dail tafol canolfain yn y glaswelltir o amgylch y Castell.

Llawredynen Gymreig.
Llawredynen Gymreig.

Adar
Mae’r titw tomos las, y dryw, y fwyalchen a jac-y-do i gyd yn nythu yng Nghastell Caeriw. Mae tylluanod yn nythu yn adfeilion y Castell hefyd. Adeg y cyfnos fe allwch chi weithiau weld tylluan wen yn hela o gwmpas y Castell. Mae’r dylluan fach, y dylluan frech a’r dylluan wen hefyd wedi’u cofnodi yn y Castell.

Kingfisher at Mill
Glas y Dorlan ar Pwll Melin Caeriw.

Mae Llyn y Felin yn denu’r pibydd coesgoch, y gylfinir, pibydd y dorlan a hwyaden yr eithin yn ogystal ag elyrch preswyl Caeriw. Yn aml byddwn yn ddigon ffodus i weld glas y dorlan yn agos at y Felin tua diwedd yr haf. Bydd gwenoliaid yn nythu bob blwyddyn yn y Felin a thua diwedd y gwanwyn/dechrau’r haf gellir eu gwylio drwy’r ‘camera gwennol’ yn Siop y Felin!