Hafan » Amdanom Ni » Aelodau » Rôl yr Aelod

Beth mae Aelodau’n ei wneud?

Fel arfer, mae Aelodau’n treulio tri i bedwar diwrnod y mis ar fusnes ffurfiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol h.y. yn mynychu Pwyllgorau neu gyfarfodydd cysylltiedig eraill. Maen nhw hefyd yn treulio peth amser yn cynrychioli’r Awdurdod mewn digwyddiadau allanol, fel gweithdai, cynadleddau, seminarau, digwyddiadau lansio a chyflwyniadau, a drefnir gan yr Awdurdod a mudiadau partner.

Gwneud penderfyniadau…

Mae gan yr Awdurdod ei hun 18 Aelod sy’n gwneud llawer o benderfyniadau pwysig; maen nhw’n gyfrifol am osod polisïau a blaenoriaethau ac am sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n dda a bod arian yn cael ei wario’n dda. Yna, mae’r swyddogion a gyflogir gan yr Awdurdod yn gweithio yn ôl y polisïau hyn ac yn gweithredu unrhyw benderfyniadau a wnaed gan Aelodau.

Yn y pendraw, y Prif Weithredwr (Swyddog y Parc Cenedlaethol) sydd â chyfrifoldeb dros waith y swyddogion.

Rydyn ni’n fudiad gweddol fach sydd â chyllideb gyfyngedig, ac felly mae cyflawni ein dibenion statudol yn dipyn o her ac yn dibynnu ar waith partneriaeth gyda phobl leol ac amrywiaeth o gyrff eraill. Mae’n waith digon cymhleth ac, er mwyn helpu pawb i ddeall sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, a pham, rydyn ni wedi llunio dwy ddogfen law yn llaw â’n partneriaid a chymunedau lleol;

Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol
Y Cynllun Datblygu Lleol

Mae’r dogfennau hyn yn cael eu llunio ar ôl cryn ymgynghoriad gyda phobl leol a mudiadau sydd â diddordeb yn y Parc. Ond, nid yw polisïau cyffredinol yn gallu delio gyda phob sefyllfa sy’n codi ac, weithiau, mae yna wrthdaro rhwng polisïau. Gwaith yr Aelodau yw cynrychioli buddiannau’r Parc Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, a sicrhau cydbwysedd rhwng unrhyw bwyseddau sy’n gwrthdaro.

Ambell ffaith…

Caiff deuddeg o’r 18 Aelod eu henwebu gan Gyngor Sir Penfro, ac mae’r 6 Aelod arall yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn proses gyfweld.

Fel arfer, mae Aelodau’r Cyngor Sir yn cael eu penodi am 4 blynedd, hyd nes etholiad nesaf yr awdurdod lleol. Mae Aelodau Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn cael eu penodi am hyd at 4 blynedd, fel arfer, a gellir ymestyn y cyfnod hwn i uchafswm o 10.

Waeth beth yw eu cefndir, disgwylir i aelodau weithredu er budd y Parc Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, ac i hyrwyddo’r ddau ddiben statudol y dynodwyd y Parc ar eu cyfer, gan adlewyrchu persbectif lleol a chenedlaethol.

Yn rhinwedd eu dyletswyddau, rhaid i Aelodau gadw at Godau a Phrotocolau penodol hefyd wrth ymgymryd â’u dyletswyddau:

Côd Ymddygiad Aelodau
Côd Ymarfer Da i Aelodau ar Gynllunio

Telir lwfans i Aelodau yn unol â Chynllun Lwfansau yr Awdurdod

Dewch i gwrdd â’r “Teulu”....

Mae’r “teulu” o 14 Awdurdod Parc Cenedlaethol ar draws Prydain – y cyfeirir atyn nhw’n swyddogol fel Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (CAPC) y Deyrnas Unedig – yn cynnal cynhadledd a gweithdy bob blwyddyn. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn ardal pob Awdurdod, yn ei thro, ac mae Aelodau’n cwrdd i drafod materion sydd o ddiddordeb/o bryder i bawb ac i rannu arfer gorau. Mae yna Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru (CAPCC) hefyd, sy’n cynnal Gweithdy yn yr Hydref bob blwyddyn ar gyfer tri Awdurdod y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Prif Weithredwyr, Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion tri Awdurdod y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn cwrdd yn chwarterol i drafod materion sy’n berthnasol i Gymru.

Teulu'r Parciau Cenedlaethol