I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Edrych yn Ôl » Archeoleg

Beth yw Archeoleg?

Gellir diffinio archeoleg fel y broses o 'astudio pobl yn y gorffennol, trwy'r olion y maen nhw'n gadael ar eu hôl'. Fe all yr olion hyn fod yn unrhyw beth, bron - o gladdedigaethau ac arfau i ddarnau o botiau wedi torri, offer cerrig neu amddiffynfeydd o'r ail ryfel byd.

Foel Drygarn Iron Age hillfort encloses three Bronze Age burial cairns. Over 200 Iron Age roundhouse platforms have been identified like pockmarks.
Mae Bryngaer Oes Haearn Foel Drygarn yn amgáu tair carnedd claddu o'r Oes Efydd a dros 200 o blatfformau tai crwn o'r Oes Haearn.

Mae rhai o'r olion hyn, fel y caerau pentir o'r Oes Haearn sydd i'w gweld ar hyd arfordir Penfro, yn sylweddol iawn ac maen nhw'n ffurfio nodweddion tirwedd nodedig iawn, hyd yn oed heddiw. Ar ben arall y raddfa ceir y darnau bach iawn o fflint sydd wedi eu gwasgaru hwnt ac yma. Mae'r rhain yn dangos ble yr oedd pobl o gynhanes yn gwneud eu hoffer ac yn eistedd o amgylch y tân. Mae pob un o'r gwahanol fathau hyn o archeoleg yn cyfrannu at amgylchedd hanesyddol y parc.


Myfyrwyr gweithio ar gloddiad ym Mae West Angle.

Mae'r amgylchedd hanesyddol yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle mor arbennig. Fe fu pobl yn byw ac yn gweithio yn y parc ers miloedd o flynyddoedd, a nhw sydd wedi llunio'r ffordd y mae'n edrych heddiw. Mae'n ddyletswydd ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ofalu am nodweddion arbennig y Parc - gan gynnwys yr archeoleg. Rydyn ni'n anelu at ddeall hanes y Parc, ei warchod a helpu pobl i'w ddeall.

Rydyn ni'n gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae ein Rheolwr Diwylliant a Threftadaeth, Phil Bennett, a'n swyddog gwarchod adeiladau, Rob Scourfield, ar gael i gynnig cyngor i bobl sy'n gweithio gyda safleoedd a nodweddion hanesyddol. Rydyn ni'n ceisio annog pobl i fwynhau eu harcheoleg - trwy deithiau themau arbennig sy'n rhan o'r rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau, trwy ddigwyddiadau blynyddol fel Wythnos Genedlaethol Archeoleg (fel arfer y drydedd wythnos ym mis Gorffennaf) a thrwy reoli Castell a Melin Heli Caeriw a Bentref Oes Haearn Castell Henllys. Hefyd, mae gan y Parc Cenedlaethol raglen barhaus o waith sy'n ymchwilio i hanes ac archeoleg y Parc.

Phil Bennett, Rheolwr Diwylliant a Threftadaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gydag un o gyrn yr ych hirgorn a ddarganfuwyd yn ddiweddar ar draeth Porth Mawr.
Rheolwr Diwylliant a Threftadaeth Phil Bennett gydag un o gyrn yr ych hirgorn a ddarganfuwyd yn ddiweddar ar draeth Porth Mawr.

Nid yw archeoleg y Parc Cenedlaethol yn canolbwyntio ar safleoedd unigol yn unig - mae hefyd yn canolbwyntio ar dirweddau cyfan. Enghraifft dda o hyn yw aber neu foryd y Cleddau ble yr oedd diwydiant galch ffyniannus hyd nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Echdynnwyd calchfaen o chwarelau bach ar wynebynnau'r sianelau llanwol, a llwythwyd y garreg ar gychod, a alwyd yn slwpiau. Yna, fe fyddai'r cychod hyn yn cario'r calchfaen i fyny'r arfordir i Ogledd Sir Benfro ble y byddai'n cael ei ddadlwytho a'i losgi mewn odynau i gynhyrchu calch ar gyfer y caeau.

Wrth i chi gerdded trwy aber y Cleddau heddiw, fe allwch chi weld ychydig o olion o'r diwydiant - llwyfan bach, gwastad ble y storiwyd calchfaen yn barod i'w lwytho, llithrffordd neu sianel ddŵr wedi ei gwneud yn syth yn artiffisial.

Mae olion tirweddau llawer hŷn i'w weld o hyd heddiw, megis y nifer o lociau amddiffynedig sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn o tua 700 CC hyd at y 70au OC pan oedd y Celtiaid rhyfelgar wedi'i darostyngwyd gan y Rhufeiniaid, a hefyd crugiau crwn o gladdedigaethau'r Oes Efydd o tua 1,700 CC.

Cromlechi Oes y Cerrig Newydd fel Cromlech Pentre Ifan ydy rhai o'r henebion mwyaf trawiadol sydd i'w weld yn y Parc Cenedlaethol, a adeiladwyd bron i 6,000 o flynyddoedd yn ôl.

Pentre Ifan Neolithic Burial Chamber. Neolithic from 4,000 BC to 2,300 BC
Cromlech Pentre Ifan. Neolithig (Oes y Cerrig Newydd 4,000 CC-2,300 OC).

Mae Archeolegwyr a Daearegwyr bellach yn argyhoeddedig mai Mynyddoedd y Preseli yw tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri. Craig Rhosyfelin wrth ochr yr Afon Brynberian yw un safle o'r fath.

Professor Mike Parker Pearson (in red T shirt) at the excavation of Craig Rhosyfelin
Mike Parker Pearson yn ystod y cloddiad yng Nghraig Rhosyfelin.