Hafan » Mwynhau » Diwylliant
Yma yn Sir Benfro mae yna ddiwylliant amrywiol a chyfoethog a luniwyd dros y canrifoedd gan don ar ôl ton o oresgynwyr ac anheddwyr.
.jpg)
Cyn y Goncwest Normanaidd, roedd yr ardal gyfan yn siarad Cymraeg ac yn cael ei rheoli gan benaethiaid Celtaidd. Darparwyd yr adloniant gan feirdd a deithiai o lys i lys yn adrodd chwedlau. Casglwyd y chwedlau hyn at ei gilydd yn ddiweddarach fel "Y Mabinogi".
Yn ystod "Oes y Saint" roedd y sir yn gartref i nifer o ffigurau Cristnogol pwysig, a'r mwyaf nodedig o'u plith oedd Dewi Sant, a ddaeth yn nawdd sant Cymru. Ar ôl ei farwolaeth, fe ddenai ei gysegr bererinion o bedwar ban byd ac, yn y ddiweddarach, daeth yn safle i Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Creodd y Goncwest Normanaidd rhaniad yn y sir sy'n dal i fodoli heddiw. Gyrrwyd y siaradwyr Cymraeg brodorol i ardaloedd gwylltach y gogledd, tra bod y de wedi'i ailboblogi gan anheddwyr o Fflandrys a Wessex. Adwaenwyd De Sir Benfro fel "Lloegr Fach", tra daeth ardal fwy gwledig gogledd y sir yn gadarnle i'r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant Cymreig.